Croeso i Safle We Cyngor Tref Aberteifi

Ar y safle hwn gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y cynrychiolydd lleol ar gyngor y dref, gwybodaeth am y cyfrifoldebau a hanes y cyngor, cofnodion ac agendâu ar gyfer cyfarfodydd cyngor tref.

Mae'r cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal ar nos Fawrth gyntaf o bob mis ac maent yn agored i'r cyhoedd. Rydym yn gobeithio cael y cyfle i gwrdd â chi.

Welcome to Cardigan Town Council Website

On this site you can find the contact details for your local representative on the town council, information on the responsibilities and history of the council, minutes and agendas for the town council meetings.

These meetings are held on the first Tuesday of every month and are open to the public. We hope to have the opportunity of meeting you. 

Newyddion

Mae'r Cyngor Tref yn chwilio am unigolion/cwmnïau i gyflwyno dyfynbrisiau ar gyfer chwistrellu chwynladdwr (mae angen y cymwysterau diweddaraf), chwynnu, casglu sbwriel ar y penwythnos a mân waith cynnal a chadw cyffredinol dros fisoedd yr haf. Dylai'r dyfynbrisiau gwmpasu gwaith o fis Mai i fis Medi ar sail dwy/tair awr y dydd neu ar y penwythnos yn unig. Mwynhau gweithio yn yr awyr agored? A ydych wedi ymrwymo i wella golwg ein tref? Ydych chi'n ddibynadwy? Cysylltwch â Chlerc y Dref ar 01239 621527 neu e-bostiwch cyngor@trefaberteifi.co.uk am fanylion pellach.


New Heading Text

New Heading Text